Presenoldeb

ABSENOLDEBAU O’R YSGOL 

Os bydd disgybl yn absennol o’r ysgol am unrhyw reswm gofynnir i rieni ffonio’r ysgol rhwng 0730 ac 0815 i roi gwybod na fydd eu plentyn yn mynychu’r ysgol ar y diwrnod hwnnw.  Mae cyfrifoldeb ar bob rhiant i sicrhau bod ei blentyn yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd ac i roi gwybod i’r ysgol pan na fydd plentyn yn gallu mynychu’r ysgol.

Mae’n ffaith bod disgyblion sydd yn colli’r ysgol yn gallu bod ar ôl gyda’u gwaith ac nid ydynt yn llwyddo cystal mewn arholiadau.

Yn y tabl isod dangosir effaith absenoldeb ar gyrhaeddiad disgyblion Ysgol Ardudwy a safodd eu harholiadau yn 2017 yn y pynciau craidd – graddau A* – C mewn Cymraeg/Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.  Mae’r canlyniadau’n dangos yn glir effaith positif presenoldeb ardderchog.

Nifer disgyblion a lwyddodd i gael graddau A*- C yn y Pynciau Craidd
Canran Presenoldeb

A* – C

(Cymraeg/Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth)

 

POLISI GWYLIAU YSGOL ARDUDWY

Oherwydd yr effaith amlwg ar gynnydd a chanlyniadau allanol,

nid yw’r Corff Llywodraethol yn caniatáu gwyliau yn ystod y tymor ysgol

a bydd pob absenoldeb ar gyfer gwyliau’n cael eu cofnodi fel absenoldeb heb ganiatad.