Cyfathrebu â rhieni

ASESU AC ADRODD BLYNYDDOEDD 7 – 9

Seilier yr adrodd i rieni ar dargedau a osodir bob blwyddyn.  Gosodir y targedau dechreuol ym Mlwyddyn 7 gan ystyried canlyniadau blaenorol y disgybl wrth drosglwyddo o’r ysgol gynradd, a’r profion deallusrwydd llythrennedd a roddir ar ddechrau Blwyddyn 7 yn Ysgol Ardudwy, ac adnabyddiaeth yr athrawon o’r disgyblion yn ystod misoedd cyntaf Blwyddyn 7.  Bydd cyfarfod arbennig i rieni a disgyblion Blwyddyn 7 ddiwedd Tachwedd pan gyflwynir y targedau.  Yna bydd adrodd i rieni ar y perfformiad yn erbyn y targedau yn digwydd bob hanner tymor gydag adroddiad llawn ym mis Gorffennaf.

Ar ddechrau Blynyddoedd 8 a 9 gosodir targedau newydd.  Bydd adroddiad cynnydd interim, sef un dudalen grynodol yn cael ei gyhoeddi bob hanner tymor gydag adroddiad llawn manylach gyda thudalen ar gyfer pob pwnc unwaith y flwyddyn.

Os bydd disgybl yn gwneud cynnydd rhagorol ac wedi cyrraedd ei darged cyn diwedd y flwyddyn bydd targed newydd yn cael ei osod bryd hynny.

Dylai disgybl wneud cynnydd sydd yn cyfateb i o leiaf hanner lefel gyrhaeddiad bob blwyddyn. 

Dyddiadau Adrodd i Rieni
Blwyddyn 7  

27.11.18

(Cyfarfod)

22.02.19 12.04.19 24.05.19

10.07.19

(Llawn)

Blwyddyn 8 26.10.18 19.12.18 22.02.19

 

12.04.19

 

 

14.06.19

(Llawn)

Blwyddyn 9 26.10.18

 

19.12.18

 

 

22.02.19

 

12.04.19

(Llawn)

 

18.07.19

Lefelau Diwedd

Cyfnod Allweddol 3

  

Dyma safonau Cyfnod Allweddol 3 (Blynyddoedd 7-9)
Lefel 8 Llawer uwch na’r lefel ddisgwyliedig
   
Lefel 7 Uwch na’r lefel ddisgwyliedig
   
Lefel 6 Wedi cyrraedd y lefel ddisgwyliedig
Lefel 5
   
Lefel 4 Yn gweithio tuag at y lefel ddisgwyliedig
Lefel 3
Lefel 2
Lefel 1